Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi teithio i Gibraltar er mwyn trafod materion yn ymwneud â Brexit.

Yn ystod ei gyfnod yn Gibraltar mi fydd Carwyn Jones yn cyfarfod â chyrff busnes a gweinidogion yn cynnwys y Prif Weinidog, Fabian Picardo.

Bydd mynediad i’r farchnad sengl a symudiad rhydd ymysg y pynciau trafod.

Mae economi Gibraltar ymysg y gorau yn y byd o ran cynnyrch domestig gros (GDP) y pen ond mae’r wlad yn ddibynnol iawn ar ei pherthynas unigryw a’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

“Cyfle i ddysgu”

“Er bod Gibraltar mewn sefyllfa unigryw, yr un pryderon sydd gennym ni yma yng Nghymru am ddyfodol perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop a’r ffordd y byddwn yn mynd ati i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’r ymweliad hwn yn gyfle i ddysgu o brofiad Gibraltar o weithredu y tu allan i’r Undeb Tollau a deall y risgiau posibl a’r materion y byddem ni yn eu hwynebu pe byddai’r Deyrnas Unedig yn dilyn yr un llwybr ar ôl Brexit.”