Carwyn Jones yn Llambed neithiwr
Amaeth, cyllid a gwasanaethau gwledig oedd ar frig yr agenda mewn cyfarfod cyhoeddus gyda’r Prif Weinidog yng Ngheredigion neithiwr.

Wrth drafod dyfodol amaethyddiaeth wedi Brexit, dywedodd Carwyn Jones wrth golwg360 nad oedd am weld pwerau presennol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu hetifeddu gan Lywodraeth Prydain.

“Alla i ddweud nawr, bydd dim caniatâd o gwbl ynglŷn â chanoli pwerau ynglŷn ag amaeth na physgodfeydd [yn Llundain]. Rydym ni’n gwneud yn glir ein bod ni’n gweld y sefyllfa fel hyn – bydd y pwerau’n dod o Frwsel yn ôl i Gymru yn y meysydd datganoledig, a dylai San Steffan ddim ymyrryd yn hwnna.”

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Prydain wedi gwarantu cynnal cymorthdaliadau gwledig yr Undeb Ewropeaidd tan 2020, ond does dim sicrwydd beth fydd yn digwydd wedi hynny.

‘Taliad economaidd a chymdeithasol’

Wrth dderbyn cwestiynau o’r llawr yn neuadd y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, cyfeiriodd Carwyn Jones at gymorthdaliadau amaeth fel “taliad economaidd i’r ffarm – ond taliad economaidd a chymdeithasol a diwylliannol i’r ardal eang hefyd”.

Dywedodd ei fod am weld y cynllun yn parhau a’r arian yn cael ei roi “mewn crochan arall” fel na fyddai’n cystadlu â’r gwariant at wasanaethau iechyd neu addysg.

“Er mwyn sicrhau bod ffermio’n gynaliadwy yng Nghymru mae’n rhaid cael system o gymorthdaliadau er mwyn cynnal cefn gwlad, sicrhau busnesau yn para i fynd a hefyd er mwyn sicrhau sylfaen gadarn i’r iaith,” ychwanegodd.

Dywedodd hefyd fod cadw marchnad â’r Undeb Ewropeaidd yn “hollbwysig” i ffermwyr defaid a chig oen Cymru.

Roedd y cyfarfod yn rhan o gyfres o sesiynau ‘Cyfarfod Carwyn’ lle mae’n teithio i bob cwr o Gymru, a dyma flas o’r trafodaethau yn Llanbed neithiwr…