Catriona Morison (Llun - o wefan cystadleuaeth Canwr y Byd 2017, BBC)
Catriona Morison o Gaeredin enillodd gystadleuaeth BBC Canwr y Byd 2017, wrth i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd neithiwr.
Roedd y mezzo-soprano 31 oed yn cystadlu yn erbyn pedwar arall yn y rownd derfynol gan gynnwys Anthony Clark Evans, baritone o’r Unol Daleithiau; Ariunbaatar Ganbaatar, bariton o Fongolia; Louise Alder, soprano o Loegr; a Kang Wang, tenor o Awstralia.
Yn cynrychioli Cymru, roedd y mezzo-soprano Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd David Pountney, Cyfarwyddwr Opera Genedlaethol Cymru ynghyd â’r cantorion Grace Bumbry, Sumi Jo, Wolfgang Holxmair a’r arweinydd Anu Tali.