Mae Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi ei enw ar bamffledi yn cefnogi ymgeisydd Llafur yn yr etholiad cyffredinol brys fis nesa’.

Ar daflenni ymgyrchu Kevin Brennan, sy’n sefyll yng Ngorllewin Caerdydd, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn annog cefnogwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion i bleidleisio drosto.

Yn ôl Dafydd-Elis Thomas, mae angen pleidleisio yn dactegol i atal y Ceidwadwyr rhag ennill y sedd.

Mae’r Aelod Cynulliad, a adawodd Plaid Cymru i fod yn aelod Annibynnol yn ddiweddar, yn rhannu ei amser rhwng byw yng Ngorllewin Caerdydd a Betws-y-coed.

Mae Gorllewin Caerdydd yn sedd gref i Lafur, ond mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn targedu’r sedd, gan ddod yn agos at ei hennill yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd. Michael Deem yw ymgeisydd y Blaid yn yr etholiad eleni.

Ymateb Plaid Cymru

“Mae record pleidleisio Kevin Brennan yn ofidus,” meddai ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Michael Deem.

“Mae wedi colli chwech o saith bleidlais bwysig ar Brexit. Collodd pump o saith bleidlais ar atal trais yn erbyn menywod. Pleidleisiodd 12 o weithiau i geisio stopio ymchwiliadau i ryfel Irac. Pleidleisiodd i godi ffioedd dysgu prifysgolion, dros ffracio a dros siarter yr ysbiwyr.

“Os yw Dafydd Elis-Thomas am gael ei gynrychioli gan Aelod Seneddol absennol, sy’n pleidleisio’r ffordd anghywir pan fydd e yna, yna mae croeso iddo gael Kevin Brennan.

“Os yw am ymuno â’r miloedd o bobol sy’n dewis dyfodol gwell i Orllewin Caerdydd, lle rydym ni wir yn amddiffyn Cymru, yna mae angen iddo bleidleisio dros Blaid Cymru.”