Mae ymgyrch i leihau’r  risg o anafiadau difrifol a marwolaethau beic modur wedi ei lansio gan Heddlu Gogledd Cymru.

Fel rhan o Ymgyrch Darwen bydd swyddogion heddlu yn cysylltu â beicwyr modur, cynnal gweithdai, monitro heolydd ac yn patrolio ffyrdd penodedig dros y misoedd nesaf.

Pwrpas yr ymgyrch, a gafodd ei lansio yn Fferm Rhug yng Nghorwen heddiw, yw gwella diogelwch beicwyr modur ac i leihau anafiadau ar ffyrdd gogledd Cymru.

Cafodd 86 o feicwyr modur a theithwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd gogledd Cymru yn ystod 2016 – cynnydd o 84 o’r flwyddyn flaenorol.

Cyfrifoldeb a diogelwch

“Mae lleihau anafiadau ar y ffyrdd yn un o’n prif amcanion. Rydym eisiau i bobl fwynhau dod i ogledd Cymru er mwyn cael bod ar ffyrdd gwych, ond yn bennaf oll rydym eisiau iddynt fod yn gyfrifol a diogel,” meddai Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol Heddlu Gogledd Cymru, yr Uwch-arolygydd Rob Kirman.

“Er bod Ymgyrch Darwen wedi ei hanelu at feicwyr modur, rydym yn edrych ar holl fodurwyr fel rhan o’r ymgyrch.

“Byddwn yn parhau i dargedu pawb sy’n reidio neu yrru’n beryglus, yn rhy gyflym, yn pasio cerbydau eraill ar linellau gwyn di-dor neu sy’n cyflawni unrhyw drosedd traffig y ffordd.”