Cerys Yemm Llun: Heddlu Gwent
Mae cwest wedi dechrau i farwolaethau dynes ifanc a dyn, a oedd wedi’i ryddhau o’r carchar, yn Argoed ger y Coed Duon.

Bu farw Cerys Yemm, 22, o’i hanafiadau yng ngwesty’r Sirhowy Arms yn oriau man 6 Tachwedd 2014 ar ôl i Matthew Williams ymosod arni.

Clywodd Llys y Crwner Gwent yng Nghasnewydd bod Matthew Williams, 34, a oedd yn aros yn y llety, wedi marw yn fuan wedyn ar ôl i’r heddlu ei saethu a gwn Taser wrth geisio ei arestio.

Dywedodd y crwner David T Bowen wrth reithgor yr achos bod Cerys Yemm wedi cyfarfod Matthew Williams ar noson allan yn y Coed Duon bythefnos cyn ei marwolaeth, a’u bod wedi cadw mewn cysylltiad.

Roedd Matthew Williams wedi cael ei ryddhau o’r carchar tua phythefnos yn unig  cyn iddo lofruddio Cerys Yemm. Roedd wedi treulio 27 mis dan glo yng Ngharchar Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Sirhowy Arms yn Argoed yn cynnig llety i bobl fregus a digartref, gan gynnwys cyn-droseddwyr.

‘Gwaed ymhobman’

Roedd perchennog y gwesty, Mandy Miles wedi cael ei galw ar ol i drigolion glywed rhywun yn sgrechian yn ystafell Matthew Williams tua 1yb.

Fe agorodd ddrws yr ystafell gydag allwedd y swyddfa a darganfod “merch yn gorwedd ar ei chefn ar y llawr gyda Matthew Williams yn gorwedd arni… a gwaed ymhobman.”

Fe geisiodd Mandy Miles siarad â Matthew Williams ond fe wnaeth barhau i ymosod ar y ferch. Aeth hi i ffonio’r heddlu’n syth, meddai’r crwner.

Fe gyrhaeddodd yr heddlu am 1.37yb a bu’n rhaid i dri swyddog yr heddlu ddefnyddio grym i geisio ei arestio. Roedd hynny’n cynnwys defnyddio gwn Taser mwy nag unwaith.

Am 1.48yb fe gyrhaeddodd parafeddygon a daeth yn amlwg bod Cerys Yemm wedi marw ond roedd Matthew Williams yn dal i anadlu ar y pryd, meddai’r crwner.

Yn fuan wedyn roedd wedi stopio anadlu ac er gwaetha ymdrechion i’w adfywio, bu farw am 2.18yb.

‘Cadw meddwl agored’

Dywedodd David Bowen wrth y rheithgor y byddai’r gwrandawiad yn clywed y rhesymau meddygol am farwolaethau’r ddau ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ystyried a oedd y grym a ddefnyddiodd yr heddlu wedi achosi neu gyfrannu’n sylweddol at farwolaeth Matthew Williams.

Fe fydd y cwest hefyd yn clywed tystiolaeth am unrhyw gyffuriau neu alcohol y gallai Matthew Williams fod wedi’u cymryd, yr amgylchiadau yn sgil ei ryddhau o’r carchar a’i iechyd meddwl.

Mae’r crwner wedi annog y rheithgor i gadw meddwl agored nes eu bod wedi clywed y dystiolaeth i gyd gan ddweud nad bwriad y cwest yw’r rhoi’r bai ar unrhyw un.

“Nid oes unrhyw un yn sefyll eu prawf ac ni ellir cael unrhyw un yn euog o unrhyw beth,” meddai.

Mae disgwyl i’r rheithgor o saith dyn a phedair dynes glywed tystiolaeth gan 43 o dystion yn ystod y gwrandawiad a fydd yn para tua phedair wythnos.

Ar ol amlinellu cefndir yr achos cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan ddydd Mercher.