Mae seremoni wedi ei chynnal ym Maes Awyr Caerdydd er mwyn lansio cynllun gwerth £1.2 biliwn i roi hwb economaidd i dde ddwyrain Cymru.

Bwriad cynllun Bargen Ddinesig Caerdydd rhwng deg awdurdod lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd, ydi creu swyddi a hybu ffyniant economaidd trwy fynd i’r afael â diweithdra, darparu cymorth i fusnesau a sicrhau y caiff unrhyw fuddion economaidd eu teimlo ledled y rhanbarth.

Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnwys cyllid gwerth £734m ar gyfer cynllun i ddatblygu system drafnidiaeth dan yr enw Metro De Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu dros £500m, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyfrannu £125m.

“Rwyf yn falch bod y ddinas-ranbarth yn awr wedi cyrraedd pwynt lle mae modd iddo ddechrau ar y gwaith o ddarparu prosiectau fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i economi’r rhanbarth, ac yn y pen draw, i fywydau pobol,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.