Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi cadarnhau fod un o’u hofrenyddion o safle Sain Tathan wedi cael ei thargedu gan ymosodiad laser nos Lun, Chwefror 13.

Mae’n debyg fod y criw yn ymateb i alwad yn ne Cymru pan gafodd pwyntydd laser ei ddisgleirio tuag ato.

“Mewn ymosodiad, mae pwyntydd laser yn cael ei ddisgleirio’n fwriadol neu’n anystyriol tuag at yr awyren,” meddai Ollie Dismore, cyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.

“Mae’r hyn sy’n ymddangos yn hwyl ddiniwed i’r tramgwyddwr yn gallu gadael canlyniadau trychinebus i’r criw a’r teithwyr ar yr awyren, aelodau diniwed o’r cyhoedd ar y tir ynghyd ag achosi niwed i awyrennau’r heddlu sydd yno i amddiffyn am na allwn fynd o gwmpas ein gwaith,” ychwanegodd.

Dywedodd y gwasanaeth fod 1,380 o achosion o ymosodiadau laser wedi’u hadrodd i’r Awdurdod Hedfan Sifil y llynedd, a bod deddfwriaeth newydd dan ystyriaeth i wneud ymosodiadau o’r fath yn droseddau.