Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 75 oed o Drefach Felindre.

Cafodd Lesley Walter Finch ei weld yn ei gartref rhwng 9.30 a 10 o’r gloch nos Fawrth, ond fe adawodd ar droed.

Does ganddo fe ddim y feddyginiaeth mae’n ddibynnol arni.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn o faint canolig, tua 5’10” o daldra, a chanddo fe wallt llwyd byr a llygaid gwyrdd neu las.

Mae lle i gredu ei fod e’n gwisgo trowsus lliw hufen pan aeth e ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, ac mae’r heddlu’n gofyn i bobol chwilio’u hadeiladu allanol.