Mae disgwyl oedi ar reilffyrdd y de dros gyfnod y Nadolig wrth i waith atgyweirio gael ei gwblhau.
Yn ôl Network Rail, bydd y gwaith o atgyweirio signalau, sy’n costio £300 miliwn, yn gwella teithiau yn y pen draw.
Ond fe fydd oedi tan Ionawr 2 yn ardaloedd Caerdydd a’r Cymoedd, ynghyd â Chasnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r gwaith yng Nghaerdydd yn cynnwys agor wythfed platfform yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Fe fydd bws yn cludo teithwyr o Ragfyr 27 ymlaen.
Fe fydd rhai ffyrdd ynghau i’r gorllewin o Gaerdydd wrth i’r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau, gyda phrofion yn cael eu cynnal ar signalau yn Llantrisant, Sain Ffagan, Pontsarn a Phencoed.
Yn ôl Arriva Cymru, bydd y gwaith yn gwella gwasanaethau a’r platfform newydd yn “cynnig mwy o hyblygrwydd”.