Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dyn lleol, 45 oed, yn dilyn ymosodiad yn nhre’r Bermo ddydd Mawrth, Rhagfyr 6.

Fe ddaw hyn wedi i ddyn lleol arall, 35 oed, gael ei anafu’n ddifrifol yng nghanol y dre’ am 11.30yh nos Fawrth ddiwetha’.

Er bod ei anafiadau’n rhai difrifol, dydyn nhw ddim yn rhoi ei fywyd mewn peryg, ac mae’r dyn yn dal i dderbyn triniaeth mewn ysbyty yn nes Cymru.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i apelio ar i dystion ddod yn eu blaenau i’w helpu wrth geisio sefydlu beth yn union ddigwyddodd cyn yr ymosodiad.