Prifysgol Aberystwyth
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi croesawu strategaeth newydd gan Brifysgol Aberystwyth sy’n rhoi aelodaeth am ddim i fyfyrwyr newydd fel rhan o’r cynllun.
Caiff y Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg ei lansio am 6yh heno, nos Lun, 5 Rhagfyr yn Medrus, Penbryn, ar ddechrau Cinio Nadolig Pantycelyn.
Mae’r brifysgol yn ei ddisgrifio fel y “cynllun mwyaf cynhwysfawr o’i fath gan unrhyw brifysgol yng Nghymru”, a bydd yn cynnwys:
- Cyfleoedd hyblyg i astudio trwy’r Gymraeg ymhob Athrofa
- Gwarant o diwtor personol Cymraeg
- Profiad gwaith dwyieithog
- Gwarant o lety cyfrwng Cymraeg
- Gwersi dysgu neu wella Cymraeg
- Aelodaeth UMCA am ddim
- Cynllun Trosi – i ddarpar fyfyrwyr sydd naill ai’n siarad Cymraeg fel ail-iaith neu’n awyddus i loywi eu sgiliau yn y Gymraeg.
‘Elfen gymdeithasol’
Mae’r cynllun newydd wedi’i groesawu gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Rhun Dafydd: “Mae’r Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg yn datgan ymrwymiad i ddatblygiad ac i ddyfodol yr iaith o fewn y Brifysgol ac yn genedlaethol.
“Dw i’n hynod o falch bod aelodaeth am ddim i UMCA yn rhan o’r cynllun sy’n dangos pa mor bwysig yw’r profiad cymdeithasol i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Ffactor arall sy’n rhan annatod o gymdeithas Gymraeg Aber yw’r gwarant o lety Cymraeg i bob myfyriwr Cymraeg.”