Safle'r ddamwain lori yng Nghaerfaddon Llun: PA
Mae’r achos yn erbyn tri dyn, sydd wedi’u cyhuddo o achosi marwolaeth pedwar o bobl a gafodd eu taro gan lori, wedi dechrau heddiw.

Bu farw Robert Parker, 59, o Gwmbrân, Philip Allen, 52, a  Stephen Vaughan, 34, y ddau o Abertawe, ynghyd a Mitzi Steady, 4, o Gaerfaddon, yn y ddamwain ar 9 Chwefror y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Bryste heddiw eu bod nhw wedi’u lladd ar ôl cael eu taro gan dryc Scania 32 tunnell, a oedd wedi colli rheolaeth wrth deithio i lawr allt serth yn  Lôn Lansdown yn Upper Weston ar ôl i’r breciau fethu.

Cafodd nain Mitzi Steady, Margaret Rogers, hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain.

Mae gyrrwr y lori, Philip Potter, 20, ei fos Matthew Gordon, 30, a’r mecanydd Peter Wood, 55, yn wynebu 14 o gyhuddiadau mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae Potter a Gordon, y ddau o Dauntsey, Wiltshire, a Wood, o Brinkworth, Wiltshire yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

‘Dibrofiad’

Wrth agor yr achos ar ran yr erlyniad heddiw, dywedodd Adam Vaitilingam QC wrth y rheithgor bod y tri dyn yn “gyfrifol” am y marwolaethau.

Clywodd y llys mai dim ond ers ychydig ddyddiau yr oedd Phillip Potter wedi bod yn gweithio i gwmni Matthew Gordon, Grittenham Haulage, a’i fod yn “ddibrofiad.”

Roedd Potter wedi bod yn dilyn lori oedd yn cael ei yrru gan Matthew Gordon pan fethodd y breciau ar ei lori a cholli rheolaeth wrth deithio i lawr Lôn Lansdown, clywodd y llys.

“Erbyn i’r lori ddod i stop, roedd pedwar o bobl wedi cael anafiadau angheuol – merch bedair oed oedd yn croesi’r ffordd gyda’i nain, a thri dyn oedd yn teithio yn yr un cerbyd gyda’i gilydd.

“Mae’r erlyniad yn dweud eu bod nhw (y diffynyddion) yn gyfrifol am yr hyn aeth o’i le y diwrnod hwnnw ac felly’n gyfrifol am farwolaethau’r bobl hynny a’r anafiadau difrifol a achoswyd,” meddai  Adam Vaitilingam QC.

Mae Potter yn gwadu achosi marwolaeth Robert Parker, Philip Allen, Stephen Vaughan, a Mitzi Steady drwy yrru’n beryglus a gyrru’n esgeulus.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol i Karla Brennan a Margaret Rogers drwy yrru’n beryglus.

Mae Gordon yn gwadu dynladdiad Robert Parker, Philip Allen, Stephen Vaughan, a Mitzi Steady drwy fethu a sicrhau bod breciau’r lori mewn cyflwr diogel.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o achosi eu marwolaethau drwy yrru’n beryglus a gyrru’n esgeulus ac achosi anafiadau difrifol i Karla Brennan a Margaret Rogers drwy yrru’n beryglus.

Mae Wood wedi ei gyhuddo o ddynladdiad Robert Parker, Philip Allen, Stephen Vaughan, a Mitzi Steady drwy fethu a sicrhau bod breciau’r lori mewn cyflwr diogel.

Mae disgwyl i’r achos gerbron Mr Ustus Langstaff barhau rhwng tair a phedair wythnos.