Mae Oxfam Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi llwyddo i godi bron £2m drwy’r siopau yng Nghymru ar gyfer gwaith yr elusen ar draws y byd.
Bydd yr arian yn mynd at gefnogi pobol sydd wedi’u dadleoli ynghyd â ffoaduriaid yn Syria, Twrci, Irac a Groeg.
“Rydym ni mor ddiolchgar i bobol hael Cymru sy’n rhoi ac yn prynu yn ein siopau,” meddai Val Griffiths, rheolwr siopau Oxfam yn ne Cymru.
Dŵr glân, bwyd a mwy…
Esboniodd Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru, ymhellach y bydd yr arian yn mynd at helpu’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd yr Eidal wrth “ddarparu bwyd, dillad, esgidiau a phecynnau glendid personol yn ogystal â chefnogaeth seicolegol a chyfreithiol.”
“Yn Syria, Yr Iorddonen ac yn Lebanon rydym yn darparu dŵr glân, pecynnau glendid a chefnogaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli popeth,” meddai wedyn.
Dywedodd fod yr elusen yn medru darparu dŵr glân i deuluoedd gyda £36, ynghyd â thoiledau a chyfleusterau ymolchi i ddwsinau o bobol ddigartref gyda £100.