System drafnidiaeth Metro De Cymru Llun: LLywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd i bwyllo a dysgu o gamgymeriadau Lloegr wrth iddi baratoi at ennill mwy o bwerau seilwaith a gwella gwasanaethau trên y de.

Yn 2017, mae’r Llywodraeth yn gobeithio ennill yr hawl i fod yn gyfrifol am fasnachfraint newydd a chontract gwerth £3.5 biliwn fydd yn arwain at sefydlu Metro De Cymru. Gobaith arall yw gwella safon rheilffyrdd trwy gynnig teithiau cyflymach, mwy dibynadwy gyda llai o orlenwi.

Ond mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan-Thomas, wedi cynghori’r Llywodraeth i asesu’r risgiau yn ofalus a dysgu o gamgymeriadau a wnaed mewn prosiect tebyg o’r enw InterCity West Coast yn Lloegr yn 2012.

Dywedodd hefyd bod penderfyniadau mawr angen eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, er ei bod wedi sefydlu bwrdd i reoli a chynghori gweithwyr y prosiect. Maen nhw’n cynnwys dewis model gweithredol ar gyfer y gwasanaeth a setlo rhai manylion ariannol gyda Llywodraeth Prydain.

Nid oes gan Gymru hawliau llawn dros reilffyrdd ar hyn o bryd ond fe gafodd £362 miliwn ei wario ar wasanaethau trên yng Nghymru rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2016.

‘Tir newydd’

“Bydd ennill hawliau tros wasanaethau rheilffordd yn dir newydd i Lywodraeth Cymru,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol. “Mae’n rhaid rheoli’r risgiau’n effeithiol a sicrhau bod archwiliad manwl o’r holl broses os yw am wireddu ei botensial.”

Mewn ymateb, ychwanegodd Nick Ramsay, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol:

“Mae angen gwell tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i ddangos gwerth am arian cyffredinol y buddsoddiad hwn ac mae angen iddi gefnogi’r broses benderfynu yn y dyfodol wrth gynllunio’r gwaith caffael ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau nesaf ochr yn ochr â darparu Metro De Cymru, a hynny cyn i Lywodraeth y DU drosglwyddo swyddogaethau gweithredol ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd, a ddisgwylir yn 2017.”

‘Dysgu gwersi’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu’r adroddiad a’u bod wedi gwneud gwaith “ymchwil helaeth” i gynllunio ar gyfer caffael y fasnachfraint.

“Mae’r gwersi a ddysgwyd o fannau eraill wedi llywio ein hagwedd ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn yr holl brosesau cywir i gael y gwerth gorau posibl am arian.”