Mae tua 50 o ddiffoddwyr tân yn brwydro fflamau wedi i dân gydio mewn warws ger Castell Nedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ym Mharc Busnes Darcy, Llandarcy tua 10 y bore.
Credir bod y to wedi disgyn oherwydd y tân ac mae criwiau tân o Gastell-nedd, Treforys, Port Talbot, Canol Abertawe, Sgeti a chriwiau arbenigol o Rydaman, Llanelli a Chaerfyrddin wedi eu galw i’r digwyddiad.
Mae’r diffoddwyr tân yn canolbwyntio ar atal y tân rhag lledu i adeiladau eraill.
Credir nad oes neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad.