Andrew R T Davies - 'dyletswydd' (Gwefan y Ceidwadwyr)
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, o laesu dwylo tros y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd – ac o fod eisiau iddyn nhw fethu.

Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig gan y Ceidwadwyr, fe gyfaddefodd Carwyn Jones mai dim ond un sgwrs ffôn y mae wedi ei chael gydag un o’r tri gweinidog yn San Steffan sy’n gyfrifol am y maes.

Heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth, wrth Golwg360 fod  y Prif Weinidog wedi bod mewn dau gyfarfod hefyd, gan gynnwys cyfarfod o Gyngor

‘Dyletswydd’

“Mae gennym ddyletswydd i bobol Cymru i sicrhau ein body n cael y fargen orau bosib gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew R.T. Davies.

“Yn anffodus, mae’r Llywodraeth Lafur yn ymddangos ei bod yn awyddus i hyn fethu, gan ddifrïo ein rhagolygon a gan wrthod gweithio’n adeiladol gyda phobol o bob ochr i’r drafodaeth.”

Andrew R.T. Davies oedd wedi gofyn yn wreiddiol i Carwyn Jones restru’r cysylltiadau yr oedd wedi eu cael gyda’r Ysgrifennydd Masnach Liam Fox, yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson neu’r Gweinidog Brexit, David Davis.                                                                                                                                                                             Fe atebodd Carwyn Jones ei fod wedi bod mewn un alwad ffon gyda David Davis.