Mae myfyrwyr mewn un coleg chweched dosbarth yng Nghymru wedi cael croeso tra gwahanol wrth gyrraedd i gasglu eu canlyniadau Lefel A heddiw.

Penderfynodd Coleg y Cymoedd wneud y diwrnod mawr ychydig yn fwy arbennig drwy weddnewid y campws yn Nantgarw i edrych fwy fel yr Oscars na lle i addysgu.

Yn ogystal â gosod carped coch hir, gosodwyd dwsinau o falwnau hefyd o amgylch y brif dderbynfa i gyfarch y rhai oedd yn cyrraedd i gasglu eu canlyniadau.

Dywedodd prif athro Coleg y Cymoedd Judith Evans bod staff yn awyddus i wneud sioe ar ôl i 500 o fyfyrwyr y coleg gael cyfradd lwyddo o 96%.

Meddai Judith Evans: “Ers agor y ganolfan hon bedair blynedd yn ôl mae diwrnod canlyniadau Lefel A wedi dod yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn.

“Mae’n fraint cael bod yma heddiw i rannu cyffro y dysgwyr a thiwtoriaid wrth iddynt ddarganfod canlyniadau dwy flynedd o ymroddiad a gwaith caled.

“Rwy’n credu bod yr awyrgylch gŵyl sydd yma heddiw yn dangos ein bod yn llwyddo.”