Bydd digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw i goffau cael gwared â’r fasnach gaethweision… ond bydd y dorf yn clywed bod masnachu mewn pobol yn dal i ddigwydd yng Nghymru heddiw.

Undeb UNSAIN sydd wedi trefnu’r cyfarfod am 6:30yh yng Nghanolfan Gymunedol Tre-biwt er mwyn nodi’r diwrnod pan gafodd caethwasiaeth ei diddymu.

Bydd cydlynydd atal masnach mewn pobl Llywodraeth Cymru, Stephen Chapman, yn annerch y dorf ac mae disgwyl iddo ddweud, er nad yw erchyllterau’r fasnach gaethweision yn bodoli mwyach, fod caethwasiaeth fodern yn dal yn bodoli mewn ffurfiau newydd a gwahanol.

“Mae gan bawb rôl i’w chwarae wrth achub dioddefwyr o’u dioddefaint,” meddai Stephen Chapman.

“Rwy’n falch o gael siarad yn y digwyddiad ac mae sefydliadau pwysig fel UNSAIN, gyda’i 100,000 o aelodau ar draws Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth ddylanwadu ar gyflogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

“Tra bod Cymru yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r fasnach anghyfreithlon mewn pobl, mae’n rhaid i ni chwalu’r celwydd bod masnachu pobl yn drosedd gudd. Mae’n fwy o achos nad yw pobl wedi bod yn chwilio amdano.

“Yn 2016, mae miliynau o bobl yn parhau i gael eu dal mewn amodau ofnadwy sy’n cael ei alw’n gaethwasiaeth modern. Mae’n rhaid i gymdeithas gymryd camau i sicrhau bod caethwasiaeth ym mhob ffurf, yn cael ei ddileu.”