Nathan Gill Llun: Ukip
Fe allai arweinydd UKIP yng Nghymru wynebu gael ei ddiarddel o’r blaid ymysg pryderon ei fod yn cynnal dwy swydd – un fel Aelod Seneddol Ewropeaidd a’r llall fel Aelod Cynulliad yng Nghymru.

Mae adroddiadau bod Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y blaid wedi penderfynu heddiw y dylai Nathan Gill roi’r gorau i un o’r swyddi y mae wedi’i hethol ar eu cyfer.

Mae Nathan Gill wedi cynrychioli’r Senedd yn Ewrop ers 2014, ac ym mis Mai eleni fe ddaeth yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.