Jill Evans ASE
Wrth ymateb i’r newyddion fod Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cyrraedd cytundeb ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, ei bod yn gobeithio nawr am ddadl onest ar y mater cyn y refferendwm.

“Mae Plaid Cymru yn gobeithio y bydd cyhoeddiad y Prif Weinidog heno yn golygu y gall dadl onest a gwybodus ar fanteision aelodaeth yr UE i Gymru gychwyn o’r diwedd,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni weld y darlun ehangach. Mae llawer iawn yr hoffem ei newid am yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond o’r tu mewn y gallwn wneud hynny,” meddai wedyn. “Bydd y penderfyniad a wnawn am y math o Gymru yr ydym am adeiladu yn effeithio ar genedlaethau i ddod.

“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”