Fe gafodd beiciwr modur ei gludo i’r ysbyty neithiwr, wedi i’w fotobeic fynd ar ei ben i mewn i gylchfan yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Fe ddigwyddodd y ddamwain brynhawn ddoe ar ffordd yr A4067 ger Pontardawe.
Neithiwr, roedd ei gyflwr yn cael ei asesu yn Ysbyty Treforys, a dydi Heddlu De Cymru ddim wedi rhyddhau mwy o wybodaeth ynglyn â difrifoldeb ei anafiadau.
Fe fu’r ffordd ar gau am gyfnod neithiwr, tra’r oedd yr heddlu yn ceisio penderfynu sut yn union y digwyddodd y ddamwain.