Mae cymuned Llanbeblig ger Caernarfon wedi ymateb yn chwyrn i achosion o ddifrod yn y fynwent leol.

Mewn neges ar Facebook, sy’n cynnwys lluniau o graffiti ar gerrig beddi, dywed y Cynghorydd Dewi Jones, sy’n cynrychioli ward Llanbeblig, mai “dyma’r lle olaf ddylsai hyn ddigwydd”.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae criw o gyn-filwyr lleol dan arweiniad Keith Jones wedi bod yn tacluso’r fynwent, gan dalu teyrnged i filwyr yr ardal gafodd eu colli yn y ddau ryfel byd.

‘Dyma’r lle olaf ddylsai hyn ddigwydd’

“Wedi derbyn y lluniau yma gan y gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym mynwent Llanbeblig,” meddai yn ei neges.

“Yn anffodus mae difrod wedi bod yn ddiweddar.

“Dyma’r lle olaf ddylsai hyn ddigwydd.

“Mae’r heddlu yn ymchwilio, felly os ydach chi’n gwybod rhywbeth, rhowch wybod iddynt.

“Dyma’r cyfeirnod trosedd: Q058790.”

Dywed un ymateb i’r neges fod “hyn yn ofnadwy” i’r teuluoedd, “ac yn amlygu amharch i’r rhai sydd wedi eu claddu”.

Dywed ei fod hefyd yn “amharchus i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio yn galed o fewn y plwyf a’r gymuned i edrych ar ôl y fynwent fawr yma”.

Mae eraill yn galw am osod camerâu cylch-cyfyng yn y fynwent.

‘Fandaliaeth mewn lle cysegredig’

“Mae hyn yn newyddion hynod, hynod siomedig,” meddai Dewi Jones wrth golwg360.

“Mae gan y fynwent le pwysig yn hanes tref Caernarfon, ac mae ganddi le pwysig yng nghalonnau pobol y dref.

“Mae’n fy nhristhau yn fawr dysgu bod fandaliaeth fel hyn yn digwydd mewn lle cysygredig.

“Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio yn galed i geisio adfer y fynwent dros y blynyddoedd diwethaf.”