Dim ond y Ceidwadwyr sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni niwclear, meddai Michael Gove wrth golwg360 yn ystod ymweliad ag Ynys Môn.

Yn ystod ei ymweliad, mae Ysgrifennydd Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig wedi bod yn cadeirio’r Fforwm Ynysoedd, sy’n gyfuniad o arweinwyr ynysoedd Prydain.

Mae’r fforwm, sydd hefyd wedi cyfarfod yn Orkney, Ynys Wyth ac Ynys Lewis yn y gorffennol ac sy’n gyfuniad o weinidogion llywodraeth a chynrychiolwyr gwleidyddol eraill, yn canolbwyntio ar faterion megis prinder tai a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

“Mae ynysoedd yn rhannau unigryw a hanfodol o’r Deyrnas Unedig, ac yn cyfrannu cymaint i’n gwlad,” meddai Michael Gove yn ystod ei ymweliad.

“Mae’r Fforwm Ynysoedd yn galluogi cymunedau ynysoedd i ddod at ei gilydd a chydweithio â’r llywodraeth i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd hanfodol.

“Mae’n gyfle i glywed mwy gan ynysoedd am eu heriau tai unigryw, ac i ddysgu mwy am sut maen nhw’n mynd i’r afael â nhw mewn ffordd arloesol a deinamig.”

Tai ar yr agenda

Cyn y digwyddiad, dywedodd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, ei bod hi’n edrych ymlaen at gynnal y fforwm ac at gael rhoi pryderon am fynediad i dai ar yr agenda.

“Mae Ynys Môn yn wynebu argyfwng tai, gyda digartrefedd yn cynyddu’n sydyn, ac mae nifer o’n trigolion yn methu fforddio tai ar yr ynys,” meddai.

“Rydym yn gobeithio y bydd cydweithio ag ynysoedd eraill, yn ogystal â Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, o fudd i bawb sy’n mynychu.”

Wylfa

Yn ei Gyllideb ddiwethaf ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Canghellor Jeremy Hunt fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am brynu Wylfa am £160m gan Hitachi.

Ond does dim cynlluniau wedi’u cyhoeddi hyd yma o ran yr hyn fydd yn digwydd i’r orsaf dros y blynyddoedd nesaf.

Cafodd cynllun niwclear yno ei ddileu yn 2019 oherwydd y gost, ond mae’r Llywodraeth bellach wedi dod i gytundeb â Hitachi, datblygwr blaenorol y safle.

Bellach, mae gobaith o’r newydd am ddyfodol niwclear y safle, sy’n cael ei ystyried yn bwysig gan y Llywodraeth, medden nhw.

Mae disgwyl i’r cynllun, sy’n cynnwys safle arall yn Swydd Gaerloyw, gostio £160m.

Pan ddaeth y cynllun i’r amlwg gyntaf, roedd cymdeithas niwclear NIA wedi croesawu’r posibilrwydd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn prynu Wylfa.

Yn ôl Tom Greatrex, Prif Weithredwr cymdeithas NIA, mae Wylfa’n “un o’r safleoedd gorau oll ar gyfer niwclear newydd yn y Deyrnas Unedig”.

“Mae llwyddiant cynyddu niwclear i’r lefelau sydd eu hangen ar gyfer sicrwydd ynni a sero net yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar a ydyn ni’n datblygu yn Wylfa,” meddai.

“Mae gan ogledd Cymru draddodiad niwclear balch, a gallai gorsaf newydd yn Wylfa drawsnewid yr economi leol â buddsoddiad ffres, miloedd o swyddi da, a darparu pŵer glân, dibynadwy, sofran fydd yn para ymhell i’r ganrif nesaf.”

Wrth siarad â golwg360, gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, dywed Michael Gove mai’r Ceidwadwyr yn unig y gall etholwyr “dibynnu” arnyn nhw i fuddsoddi mewn ynni niwclear.

“Tra mewn grym, dydy’r pleidiau eraill ddim wedi dangos yr un ymrwymiad i’r math yma o gynhyrchu trydan sy’n net sero,” meddai.

“Hefyd, does neb arall wedi bod yn ymladdwyr mwy dyfal ar gyfer ynni niwclear a’r Wylfa na Virginia Crosbie [Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn].

“Felly, dw i ddim yn meddwl bod unrhyw ymgeisydd arall, Aelod Seneddol arall neu Lywodraeth arall, yn gallu bod yn yr un sefyllfa â ni i gyflawni’r nod yma yn y dyfodol.

“Mae rhaid hefyd gwneud yn siŵr bod gan Ynys Môn wahanol fathau o fuddsoddiad.

“Dydyn ni ddim yn gallu cael Ynys Môn sy’n ddibynnol ar un neu ddau sector economaidd yn unig, a dyna pam fod dyfodol Wylfa mor bwysig fel rhan o fuddsoddiad cymysg i’r dyfodol.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig am brynu safle Wylfa ym Môn

Daeth cadarnhad gan y Canghellor Jeremy Hunt wrth gyhoeddi ei Gyllideb