Mae rhaglen gwerth £300m i adeiladu ysgolion wedi cymryd cam ymlaen, ar ôl i’r Cabinet gymeradwyo cyflwyno’r cynlluniau i Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Powys wedi llunio Rhaglen Strategol Amlinellol newydd i’w chyflwyno i Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n rhaglen naw mlynedd o hyd.

Ddoe (dydd Mawrth, Mai 7), fe wnaeth y Cabinet gytuno i gymeradwyo’r rhaglen i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

‘Trawsnewid addysg y sir’

Pe bai’n cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn helpu’r Cyngor i wireddu eu Rhaglen Trawsnewid Addysg, gafodd ei ail-lansio yn 2022 ochr yn ochr â fersiwn ddiwygiedig o’r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, yn ogystal â gwireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.

Yn rhan o’r cyflwyniad, byddai’r rhaglen arfaethedig yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru’n darparu ychydig o dan £200m o’r cyllid i adeiladu cyfleusterau addysg newydd, a’r Cyngor yn darparu ychydig dros £100m.

“Yr unig ffordd y gallwn feithrin Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach yw sicrhau’r dechrau gorau posibl mewn bywyd ar gyfer ein pobl ifanc. Un o’r ffyrdd y gallwn wireddu hyn yw trwy drawsnewid addysg,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu.

“Gall y Rhaglen Strategol Amlinellol y byddwn yn ei chyflwyno nawr i Lywodraeth Cymru ymddwyn fel catalydd i drawsnewid addysg yn y sir.

“Bydd yn ein helpu i ddarparu darpariaeth a gynllunnir er mwyn cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer nifer gynyddol o blant a phobol ifanc i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddarparu ar yr un pryd, cyfleusterau’r 21ain Ganrif, fyddai’n cynnig amgylchfyd lle gall dysgwyr ac athrawon ffynnu a chyflawni eu potensial.

“Credaf y bydd y rhaglen hon yn helpu’r cyngor i fodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, a gweithredu’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Darllenwch y Strategaeth Trawsnewid Addysg ddiweddaraf ar gyfer 2020-2032, a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg.

 

Cyngor Powys

Cynghorwyr Powys yn bwrw ymlaen â chynlluniau i uno dwy ysgol

Elgan Hearn (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Daw’r penderfyniad i uno Ysgol Treowen ac Ysgol Calon y Dderwen er gwaethaf cryn wrthwynebiad