Mae Sadwrn Barlys wedi bod yn atyniad yn nhref Aberteifi ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae cofnod cyntaf y digwyddiad yn dyddio’n ôl i 1871, pan fyddai ffermwyr yr ardal yn dod i’r dref i gyflogi gweithwyr, a pherchnogion ceffylau yn arddangos eu meirch.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn olaf mis Ebrill, ac yn denu torf o filoedd i’r dref yng Ngheredigion bob blwyddyn.

Prif atyniad y digwyddiad erbyn hyn yw gorymdaith y meirch o gwmpas y dref ac arddangosfa o hen dractorau, ceir a beiciau modur.

Yr hen dractorau’n gorymdeithio drwy strydoedd Aberteifi yn ystod Sadwrn Barlys

Mae disgwyl i o leiaf 3,500 o bobl ymgynnull yn y dref heddiw (Dydd Sadwrn, Ebrill 27) i wylio’r orymdaith.

Bydd beirniadu’r ceffylau yn dechrau hanner awr yn gynt eleni, am 11yb yn lle 11.30yb, a’r orymdaith yn cychwyn am 2yp.