Mae Eluned Morgan wedi cadarnhau na fydd hi’n sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Daw hyn ar ôl i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, gyhoeddi’r wythnos hon ei fod e am roi’r gorau i’r swydd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yw’r unig ymgeisydd hyd yn hyn yn y ras i olynu Mark Drakeford, ond mae cryn ddyfalu y gallai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, ddatgan ei fod yntau am sefyll hefyd.

Mewn datganiad, dywed Eluned Morgan ei bod yn “ostyngedig” o ganlyniad i’r gefnogaeth gan Aelodau’r Senedd, Aelodau Seneddol, cynghorwyr ac aelodau’r Blaid Lafur sydd wedi datgan eu cefnogaeth iddi.

“Ar ôl ystyried yn ofalus, ac er mwyn rhoi terfyn ar unrhyw ddyfalu pellach, dw i wedi penderfynu peidio sefyll fel arweinydd Llafur yng Nghymru,” meddai mewn datganiad ar X (Twitter gynt).

“Ar hyn o bryd, mae fy ffocws diwyro ar lywio’r Gwasanaeth Iechyd drwy’r hyn fydd, yn ddiau, yn un o’r gaeafau mwyaf heriol, wedi’i waethygu gan y cyfyngiadau ariannol difrifol a’r heriau economaidd sy’n deillio o gamreolaeth y Torïaid o’r economi.

“Dw i’n barod i gefnogi’r arweinydd Llafur nesaf yng Nghymru i gyflwyno rhaglen wleidyddol fydd yn canolbwyntio ar gyflwyno cyfiawnder cymdeithasol, tyfu’r economi a gwarchod y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas.”