Mae “gormod o amrywiaeth” rhwng ansawdd dysgu ac addysgu mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl adroddiad blynyddol Estyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Er hyn mae’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands, yn cydnabod arwyddion o gynnydd. Mae’n nodi gwelliant mewn meysydd fel ymddygiad, presenoldeb, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, a chefnogi dysgwyr bregus.

Ond, mae’r bwlch rhwng yr ysgolion rhagorol a’r rhai nad sy’n medru cwrdd â’r disgwyliadau yn peri pryder.

“Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr ysgolion gorau a’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd,” meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn.

Mae’r adroddiad yn amlygu deuddeg cwestiwn i arweinwyr ac athrawon eu hystyried i wella addysgu a dysgu. Mae’r cwestiynau’n rhychwantu meysydd fel anghenion datblygu staff ac asesu disgyblion.

Mae’r adroddiad wedi asesu’r holl arolygiadau o ddarparwyr addysg a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn academaidd 2014-15.

‘Defnyddio dychymyg yn yr ystafell ddosbarth’

Fe awgrymodd y Prif Arolygydd y dylai ysgolion rannu a dysgu gan yr ysgolion sy’n cyflawni orau er mwyn gwella safon yr addysgu a’r dysgu.

“Mae angen i athrawon ac arweinwyr ddefnyddio’u dychymyg yn yr ystafell ddosbarth a chroesawu’r her i rannu a dysgu gan y goreuon. Mae llawer o’r ysgolion gorau mewn ardaloedd cymharol dlawd, felly nid yw amddifadedd economaidd yn rheswm dros safonau is.

“Dylai pob arweinydd ac athro ofyn iddyn nhw eu hunain a oes sylfeini cadarn gan eu hysgol a ph’un a ydynt yn gwbl barod ar gyfer newidiadau a heriau’r dyfodol yn addysg Cymru.”

‘Ysgolion sy’n arwain y ffordd’

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr ysgolion sy’n arwain y ffordd, e.e. Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe sydd wedi creu gwaith arloesol yn ail-ddylunio model y cwricwlwm sy’n annog cymhwyso amrywiaeth o bynciau i brosiectau ar draws themâu amrywiol.

Ysgol arall sydd wedi mynd i’r afael yn fentrus ag addysgu a dysgu yw Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed. Mae’r ysgol wedi defnyddio drama i gynnig cysylltiad emosiynol a deallusol i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Maent hefyd yn defnyddio llechi digidol i recordio gweithgareddau drama. “Mae’r dull hwn wedi gwella cyrhaeddiad, yn enwedig cyrhaeddiad bechgyn,” meddai’r Prif Arolygydd.

“Dylai darparu profiadau addysgu a dysgu a fydd yn sicrhau bod disgyblion yn ymddiddori’n llawn yn eu dysgu ac yn barod i fyw bywydau cyflawn fod wrth galon pob ysgol,” meddai Meilyr Rowlands.

Siomedig’

“Mae adroddiad heddiw yn dangos fod eto ormod o amrywiaeth safonau mewn ysgolion ar draws Cymru,” yn ôl Aled Roberts AC, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae’n siomedig i weld fod y mannau ar gyfer datblygu yn yr adroddiad diwethaf yn parhau yn yr adroddiad hwn,” meddai gan gyfeirio at rifedd ac ymyrraeth effeithiol gan gonsortia rhanbarthol.

“Mae’n bryder mawr hefyd fod ‘diffygion pwysig mewn safonau’ TGCh mewn nifer o ysgolion cynradd.”

Fe ddywedodd Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Angela Burns:  “Dim ond un cyfle sydd gan blentyn mewn addysg. Bob tro y mae’r safonau addysg yng Nghymru yn methu o gymharu â rhannau o’r eraill o’r DU – caiff mwy o bobl ifanc eu gadael i lawr a’i gwneud hi’n anos iddyn nhw gyrraedd eu llawn botensial.

“Y sialens i’n system addysg ni yw adnabod a meithrin talentau pob disgybl a pharatoi ein pobl ifanc i’r farchnad swyddi sy’n dod yn gynyddol ryngwladol.”

Gellir gweld copi o’r adroddiad blynyddol yma.