Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd i ysbrydoli pobol ifanc i fod yn wyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr.
O ganlyniad i’r cyllid, bydd pob disgybl ysgol gynradd ac uwchradd ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful yn gallu ymgysylltu â chyflogwyr gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Mae Prosiect Peirianneg y Cymoedd yn fenter a gafodd ei ddatblygu ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Panasonic a’r Academi Frenhinol Peirianneg.
Dechreuodd y prosiect yn 2018, ac mae’n cael ei ariannu gan yr Ymddiriedolaeth a’i gynnal gan yr Academi.
Y bwriad yw creu canolfannau rhagoriaeth mewn addysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a gwella cyfleoedd dysgu yng Nghymoedd y de.
Bydd y rhaglen yn derbyn £348,377 dros bedair blynedd trwy Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, gan ymestyn y gwaith ymgysylltu â chyflogwyr i gynnwys pob un o’r 53 ysgol ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful o dymor y gwanwyn 2022.
‘Creu optimistiaeth’
“Fy uchelgais yw gwneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobol ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.
“Fy neges iddyn nhw yw nad oes rhaid i chi symud i ffwrdd i symud ymlaen.
“Mae rhaglenni fel hyn yn hanfodol ar gyfer creu optimistiaeth ynghylch y weledigaeth hon. Mae’n cyfoethogi’r cwricwlwm, yn ennyn diddordeb disgyblion, ac yn ysbrydoli myfyrwyr drwy ddod ag arferion peirianneg o’r byd go iawn i ysgolion.
“Drwy’r Cymoedd Technoleg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau twf busnesau ar draws cymoedd y de ac ehangu’r sylfaen o sefydliadau technoleg sydd gennym yn yr ardal.
“Rydyn ni am helpu pob busnes i arloesi ac ymdrechu i gael technolegau o’r radd flaenaf.
“Rydyn ni eisoes yn gyrchfan o ddewis i gwmnïau a phrosiectau eithriadol.
“Mae’r rhaglen hon, drwy gydweithio o ddifri ag awdurdodau lleol, busnesau ac ysgolion, yn ymrwymiad hirdymor i greu canolfannau rhagoriaeth mewn dysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a meithrin gweithlu’r dyfodol, er mwyn i’r busnesau a’r mentrau hyn fedru cyflawni mwy fyth yn y dyfodol.
“Gallai lywio’r gwaith o gyflwyno’r model ledled Cymru.”
‘Uchelgeisiol’
“Rwyf wrth fy modd bod ein cynlluniau uchelgeisiol i ymestyn ymgysylltiad cyflogwyr drwy Brosiect Peirianneg y Cymoedd wedi’u gwireddu a bod yr Academi’n gallu cryfhau ac ehangu ei gwaith yng Nghymru,” meddai Dr Hayaatun Sillem, prif swyddog gweithredol yr Academi Frenhinol Peirianneg.
“Un o brif amcanion yr Academi yw cefnogi datblygiad economi gynhwysol, ac mae hynny’n cynnwys ymgysylltu ag ysgolion mewn ardaloedd o symudedd cymdeithasol isel, darparu mynediad cyfartal i wyddoniaeth a pheirianneg i’r myfyrwyr yn yr ardaloedd hyn, a datblygu eu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
“Drwy adeiladu partneriaethau lleol hirdymor rhwng ysgolion a chyflogwyr yn yr ardaloedd hyn, gallwn hefyd gydweithio i gyfrannu at greu sylfaen o sgiliau peirianneg sy’n gallu diwallu anghenion rhanbarthol yn well.”