Yn ôl adolygiad gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), mae gennym fwy o gyfryngau nag erioed o’r blaen ond bod ei gynnwys am Gymru wedi gostwng.
Mae Adolygiad Cyfryngau Cymru yr IWA yn cynnwys holiaduron a roddwyd i ddarllenwyr, adolygiad o adroddiadau blynyddol ac amrywiaeth o ddata i asesu allbwn y wasg, gwasanaethau ar-lein a darlledu yng Nghymru.
Yn ôl yr IWA, mae’r BBC yn gwario 25% yn llai ar raglenni i Gymru yn Saesneg o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac mae S4C wedi cael toriad o 24% yn ei chyllid canolog.
Ac er i wasanaeth ITV yn yr Alban, STV gynyddu ei allbwn ar y teledu, mae ITV Cymru wedi ei leihau, gan ddangos 90 munud yn unig o raglenni Saesneg am Gymru yr wythnos, yn ogystal â’i allbwn newyddion.
Mae’r cyfryngau traddodiadol hefyd yn dioddef, gyda chylchrediad papurau newyddion yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol.
Mae cylchrediad y Western Mail wedi gostwng 53% ers i’r IWA gynnal archwiliad yn 2008. Mae’n gwerthu 17,815 o gopïau’r dydd, llai na’r South Wales Echo (18,408 – sef gostyngiad o 60%), y Daily Post (24,485 – gostyngiad o 33%) a’r Evening Post (27,589 – gostyngiad o 46%).
Mae nifer y newyddiadurwyr sy’n cael eu cyflogi hefyd wedi gostwng o bron i 700 yn 1999 i 108 yn unig yn 2013.
‘Her i’n democratiaeth’
Dyma’r tro cyntaf i’r felin drafod annibynnol gynnal adolygiad o’r cyfryngau yng Nghymru ers 2008, ac mae sefyllfa’r cyfryngau yn “her fawr i’n cymdeithas a’n democratiaeth,” yn ôl y cyfarwyddwr.
“Mewn cyfnod pan nad yw endid democrataidd Cymru erioed wedi bod mor glir, mae’r ffynonellau am wybodaeth i ddadlau a chraffu ar ein Llywodraeth, ein diwylliant a’n hunaniaeth yn brin,” meddai cyfarwyddwr yr IWA, Lee Waters.
“Mae hyn yn her fawr i’n cymdeithas a’n democratiaeth, ac mae’n haeddu cael ei ystyried o ddifrif.”
Dywedodd Angela Graham, Cadeirydd Grŵp Polisi Cyfryngau yr IWA: “Tra bod argaeledd cyfathrebu digidol, ar gyfer y rhan fwyaf, wedi gwella’n sylweddol, mae’r safle o ran cynnwys i gynulleidfaoedd yng Nghymru wedi gwaethygu gryn dipyn.”
“Nid yn unig bod llai o ddarlledu am Gymru i bobl Cymru, ond mae’r amrywiaeth yn llawer mwy cul. Ychydig iawn o gynrychiolaeth sydd i genres fel adloniant ysgafn, y celfyddydau a drama, ac mewn rhai blynyddoedd, fydd dim o gwbl.”
Bydd y corff yn cyhoeddi fersiwn derfynol yr Adolygiad ar 11 Tachwedd yng Nghaerdydd, ond bydd y drafft yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf ar ei wefan, clickonwales.org.