Llys y Goron Abertawe
Roedd dyn wedi esgus bod yn anymwybodol ac mewn cadair olwyn er mwyn osgoi achos llys – cyn i’r heddlu ei weld yn cerdded yn rhydd o amgylch arfarchnad leol.

O ganlyniad fe fydd Alan Knight a’i wraig yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw ar ôl pledio’n euog i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ôl y Barnwr Heywood, Alan Knight, 48 oed, oedd y “dyn mwya’ anonest” yr oedd wedi dod are i draws erioed.

Twyllo dyn oedrannus

Roedd y twyll iechyd wedi digwydd wrth i Alan Knight o Sgeti, Abertawe, wynebu achos llys am dwyllo cymydog oedrannus a oedd yn diodde’ o ddemensia.

Roedd Alan Knight wedi ffugio sieciau ac wedi newid ewyllys Ivor Richard, 86 oed, gan ddwyn mwy na £41,000 oddi arno.

Fe geisiodd osgoi mynd i’r llys trwy ddweud ei fod wedi cael anafiadau difrifol i’w wddw mewn damwain car ac na allai wynebu achos.

Cerdded mewn archfarchnad

Roedd ei wraig Helen, 34 oed, hyd yn oed wedi ei wthio i’r llys mewn cadair olwyn a brace gwddw, ac yntau’n esgus bod yn anymwybodol.

Ond trwy ddilyn cerdyn Tesco Alan Knight, fe gafodd yr heddlu gopi o luniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn cerdded o amgylch yr archfarchnad.

Fe gafodd Alan Knight bedair blynedd a hanner o garchar am dwyllo Ivor Richard rhwng 2008 a 2009 ond fe benderfynodd y barnwr y byddai’n delio gyda’r cyhuddiad arall ar wahân.

Yr achos heddiw

Fe fydd Alan Knight yn ymddangos o flaen y llys trwy gyswllt fideo o garchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae disgwyl y bydd cyfreithiwr Helen Knight yn dadlau heddiw ei bod hi wedi cael ei gorfodi i helpu ei gŵr.