Ryan Jones yn chwarae dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013 (llun: PA/David Davies)
Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gêm.

Mae chwaraewr Bryste’n rhoi’r gorau iddi flwyddyn cyn diwedd ei gytundeb oherwydd probelmau gyda’i ysgwydd.

Fe gafodd lawdriniaeth wedi anaf dri mis yn ôl ond fe ddywedodd heddiw ei bod yn amlwg bellach na allai ddal ati i chwarae.

Ei yrfa

Fe enillodd Ryan Jones 75 o gapiau i Gymru yn y rheng ôl, gan ennill y Gamp Lawb dair gwaith – ef oedd y capten yn 2008 a 2012

Roedd hefyd wedi chwarae mewn tair gêm brawf i’r Llewod yn Seland Newydd yn 2005.

Roedd ar lyfrau tîm pêl-droed Bristol City pan oedd yn 14 oed ond fe drodd at rygbi a chwarae i Risca, Casnewydd, y Rhyfelwyr Celtaidd ac, yn benna’, y Gweilch.