Cymru yw’r trydydd o’r gwaelod ar restr gwledydd Prydain am incwm teuluoedd.

Dim ond mewn dau ranbarth eonomaidd – Gogledd-ddywrain a Dwyrain Lloegr – y mae’r ffigurau’n is.

Ac mae Cymru ymhell ar ôl rhanbarthau eraill, gan gynnwys yr Alban.

Cyfartaledd misol incwm teuluoedd yng Nghymru yw £1,875 – o’i gymharu â £2,739 yn Llundain sydd ar frig y rhestr.

Teuluoedd yng Nghymru sy’n cynilo leia’, yn ôl yr adroddiad  gan gwmni Aviva – dim ond £77 y mis ar gyfartaledd.

Y gwahaniaeth yn tyfu

Yn ôl yr adroddiad, mae incwm teuluoedd ar ei ucha’ ers mis Mai 2012 ond mae’r gwahaniaeth rhwng yr ucha’ a’r isa’n dal i dyfu.

Mae incwm teuluoedd un rhiant wedi gostwng yn y cyfnod rhwng hyn a mis Tachwedd 2014 ac mae 10% o deuluoedd trwy wledydd Prydain yn ennill llai na £1,000 y mis.

Mae’r ffigurau’n “newyddion gwych i rai teuluoedd”, meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Aviva, Louise Colley, “ond rhaid i ni beidio ag anwybyddu nifer cynyddol y teuluoedd sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan yr adfywiad hwn,” meddai.

O ranbarth i ranbarth

Dyma’r incwm fesul rhanbarth:

:: Llundain, £2,739

:: De Ddwyrain Lloegr, £2,417

:: Yr Alban, £2,136

:: Dwyrain Lloegr, £2,116

:: Gorllewin Canolbarth Lloegr, £2,030

:: Swydd Efrog, £1,992

:: De Orllewin Lloegr, £1,973

:: Gogledd Orllewin Lloegr, £1,885

:: Cymru, £1,875

:: Dwyrain Canolbarth Lloegr, £1,830

:: Gogledd Ddwyrain Lloegr, £1,795