Mae Pwyllgor Cynllunio Ynys Môn yn cyfarfod heddiw i drafod cynllun dadleuol Land and Lakes i godi cannoedd o dai a phentrefi hamdden ar yr ynys.

Mae’r pwyllgor eisoes wedi cymeradwyo’r cynllun, a heddiw byddan nhw’n trafod yr amodau mewn ymgais i roi sêl bendith terfynol ar y cytundeb.

Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni am 1 o’r gloch brynhawn heddiw.

Ymgynghori

Mae’r cynllun i adeiladu tai a phentrefi hamdden ym mharciau gwledig Caergybi wedi bod yn un dadleuol iawn, gyda thrafodaethau wedi’u cynnal ers bron i ddwy flynedd.

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu pentrefi hamdden ym Mharc Glannau Penrhos, Parc Cybi a datblygiad preswyl yn Kingsland.

Mae bwriad i adeiladu hyd at 500 o fythynnod ym Mharc Glannau Penrhos, ac mae’r cynllun wedi’i anelu at ddarparu llety ar gyfer gweithwyr fyddai’n adeiladu Wylfa B ac ymwelwyr.

Fe wrthodwyd y cais yn wreiddiol yn Hydref  2013, ond fis yn ddiweddarach, cafodd ei ailgyflwyno a’i dderbyn gan y pwyllgor.

Yn dilyn mwy o waith ymgynghori, mae’r Pwyllgor Cynllunio bellach yn barod i asesu amodau’r cais cyn cyhoeddi caniatâd terfynol.

Yr amodau

Yn ôl adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio, mae rhai o amodau’r cynllun yn cynnwys sicrhau cyfraniad ariannol tuag at wasanaethau lleol.

Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau addysg, gofal meddygol, hamdden, llyfrgell, heddlu, gwasanaethau brys, trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogaeth leol, ac arwyddion Cymraeg.

Mae hefyd galw am dai fforddiadwy fel rhan o’r cynllun.

Gyda’r tri safle datblygu wedi’u lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE), mae tipyn o wrthwynebiad lleol wedi bod gyda phrotestiadau wedi’u cynnal yn flaenorol.

Mae Land & Lakes yn gwmni datblygu hamdden a phreswyl sy’n rhoi pwyslais ar ymwybyddiaeth amgylcheddol a datblygiadau defnydd-cymysg ‘ynni isel’.