Mae ail ddyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â saethu yn Aberpennar ddydd Sul.

Cafodd dyn 46 oed o Aberpennar ei arestio neithiwr, meddai Heddlu’r De.

Mae’r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn arall 46 oed a gafodd ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Cafodd Mark Jones, 43 oed, o Aberpennar ei gludo i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful mewn cyflwr difrifol ar ôl y digwyddiad ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon nos Sul.

Yn ôl llygad dystion cafodd dau ergyd o wn eu clywed yn cael eu tanio o gar Audi A3 gwyn tua 7.40yh nos Sul, 26 Gorffennaf.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 02920 527303 neu 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500271720, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.