Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Mae ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi derbyn argymhellion adolygiad allanol sy’n dweud bod angen iddi gael ei rheoli’n well.

Roedd yr adolygiad wedi cael ei gomisiynu ganddyn nhw ar ôl i’r Llyfrgell fynd i helynt wrth ddiswyddo dau aelod o staff. Roedd Tribiwnlys Cyflogaeth wedi dyfarnu i’r ddau, Arwel Jones ac Elwyn Williams gael eu diswyddo’n annheg, a bu’n rhaid i’r Llyfrgell dalu iawndal iddyn nhw.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno gan yr adolygwyr, PricewaterhouseCoopers (PwC) i’r ymddiriedolwyr ddoe, dylai’r Llyfrgell fod wedi ymdrin â’r mater yn fwy effeithiol.

Nid oedd chwaith bolisïau a threfn glir i alluogi’r Llyfrgell ymdrin â’r materion a oedd yn ymwneud â’r ddau weithiwr.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ar sut y dylai’r Llyfrgell gael gwell trefn ar bethau, ac mae’r ymddiriedolwyr wedi sefydlu tasglu arbennig i drafod amserlen fanwl i weithredu’r argymhellion.

Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol:

“Mae’r Bwrdd yn gwbl benderfynol i  fynd i’r afael â’r materion gofidus hynny sy’n ymwneud â’n gweithdrefnau, prosesau disgyblu, rheolaeth a llywodraethiant , a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn eu datrys. Mae cynnydd sylweddol wedi’I wneud yn barod, ond mae rhagor I’w wneud.”

“Er mwyn bod yn gwbl dryloyw, mae copi o adolygiad PwC ar gael ar ein gwefan (www.llgc.org.uk).”