Seren y West End, Caroline Sheen ddaeth i’r brig yn ffeinal y gyfres cariad@iaith ar S4C neithiwr.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi neithiwr ar ddiwedd wythnos o wersi heriol a gweithgareddau – gan gynnwys hebogaeth, canŵio a chanu.

Daw Caroline yn wreiddiol o Gaerllion, ac mae hi wedi serennu mewn nifer o sioeau cerdd mawreddog megis ‘Grease’, ‘Mamma Mia’ a ‘Les Miserables’.

Mae hi hefyd yn gyfnither i’r actor Cymreig enwog o Bort Talbot, Michael Sheen.

Y cystadleuwyr eraill eleni oedd y dyn tywydd Derek Brockway, yr actores Nicola Reynolds, yr awdur a’r actor Steve Speirs, cyflwynydd CBeebies Rebecca Keatley, y cyn-chwaraewr rygbi Tom Shanklin, y digrifwr a’r cyflwynydd radio Chris Corcoran a’r athletwr Jamie Baulch.

Ar ddiwedd y gyfres, dywedodd Caroline Sheen: “Dwi wedi cael amser anhygoel ar y rhaglen hon.

“Mae gormod o uchafbwyntiau i’w rhestru, ond does dim yn mynd i newid y ffaith wnes i guro Jamie Baulch yn y ras sachau!

“Roedd yr hebogaeth yn brofiad gwych a’r rafftio hefyd. Ac roedd y ffordd wnaeth Ioan a Nia fywiogi’r gwersi yn wych a chymaint yn fwy o hwyl na’r ysgol.”

Dywedodd ei bod yn wythnos anodd a blinedig ond hefyd yn un “wobrwyol a ffantastig”!

“Mae pawb wedi gwneud cymaint o ymdrech ac wedi gwella eu Cymraeg.

“Roedd Jamie’n cwestiynu ei allu’n gyson, ond mae ei ddealltwriaeth o’r iaith lawer yn well nawr.

“Mae Rebecca a Nicola’n deall llawer o Gymraeg nawr ond mae Tom yn dal yn hoff o’r rhegfeydd!

“Dyma brofiad anhygoel a byddwn i’n argymell unrhyw un i fynd ati i ddysgu’r iaith. Mae’n iaith sy’n perthyn i ni gyd ac mae’n bwysig ein bod ni’n ei chefnogi hi.”

Yn rhan o’i gwobr, bydd Caroline Sheen yn cael wythnos ychwanegol o wersi Cymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Ychwanegodd cyflwynydd a thiwtor y gyfres, Nia Parry, “Llongyfarchiadau mawr iawn i Caroline. Mae hi wedi dangos brwdfrydedd a datblygiad gwych a phob lwc iddi yn y dyfodol.”

Gallwch wylio’r gyfres gyfan o cariad@iaith ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ol y darllediad cyntaf.