Mae daeargryn wedi taro gogledd orllewin Cymru prynhawn ma.

Roedd y daeargryn yn mesur 3 ar raddfa Richter, yn ôl Arolwg Daearegol Prydain.

Roedd wedi’i ganoli o gwmpas Maes Awyr Caernarfon ond i’w deimlo yng Nghaernarfon, Bangor ac Ynys Môn.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.