Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw’r lle gorau yn y DU  i astudio drama, yn ôl tabl prifysgolion newydd.

Ond dyw  llawer o brifysgolion eraill Cymru heb wneud cystal.

Yn ôl tablau cynghrair prifysgolion papur newydd y Guardian, y coleg perfformio yng Nghaerdydd yw’r gorau yn y DU hefyd am gwrs rheoli llwyfan a chafodd y coleg sgôr o 100 allan o 100 gan y papur.

Yn ogystal, mae cwrs deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi dringo i frig y safleoedd, ar ôl bod yn 11 y llynedd.

Prifysgol Caerdydd yw’r gorau yng Nghymru, gan gyrraedd rhif 27 yn y tablau – un safle’n waeth na’r llynedd.

Mae Prifysgol De Cymru wedi gostwng o 102 i 113 ac Aberystwyth wedi gostwng o 106 i 110.

Ond cododd Prifysgol Abertawe bum safle i 53, tra bod Bangor hefyd wedi codi o 87 i 52.

Roedd y tri ar frig y tabl heb newid ers y llynedd. Roedd Prifysgol Caergrawnt yn gyntaf, Rhydychen yn ail a St Andrews yn  drydydd.