Nicola Sturgeon
Mae Nicola Sturgeon wedi dweud y bydd Llywodraeth yr Alban yn gwneud achos “cryf a chadarnhaol” dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Meddai y bydd angen i Lywodraeth yr Alban wneud hynny er mwyn atal y wlad rhag cael ei gorfodi allan o’r Undeb yn erbyn ei hewyllys petai’r DU yn pleidleisio dros adael mewn refferendwm.

Roedd Prif Weinidog yr Alban yn siarad wrth iddi gyflwyno ei haraith economaidd fawr gyntaf ers buddugoliaeth yr SNP yn yr Alban yn yr etholiad cyffredinol, diwrnod cyn Araith y Frenhines yn San Steffan.

Nododd Nicola Sturgeon dri maes blaenoriaeth ble fyddai Llywodraeth yr Alban yn ceisio canlyniadau ar lefel y DU er budd economi’r Alban.

Dywedodd arweinydd yr SNP fod canlyniad yr etholiad cyffredinol yn cynnig “cyfle a her” i Lywodraeth yr Alban.

Meddai y byddai ei Llywodraeth yn parhau i wrthwynebu toriadau, yn ymgyrchu dros gadw’r DU yn yr UE ac yn pwyso am bwerau ychwanegol i’r Alban.

Ailadroddodd ei gwrthwynebiad i’r refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE, a dywedodd y byddai ei Llywodraeth yn “ceisio  gwarchod buddiannau’r Alban”.

Ychwanegodd y byddai’n ymhelaethu ar yr achos hwnnw mewn araith ym Mrwsel yr wythnos nesaf.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron gwrdd â llywydd yr UE Jean-Claude Juncker yn Chequers ddoe.