Lagŵn Llanw Bae Abertawe
Mae cynllun arfaethedig Lagŵn Llanw Bae Abertawe, fydd werth £1 biliwn petai’r prosiect yn mynd yn ei flaen, wedi cyhoeddi mai cwmni Laing O’Rourke sydd wedi ennill y cytundeb £200 miliwn i adeiladu tyrbin a llifddor i reoli llif y dŵr.

Cwmni o Gaint yw Laing O’Rourke a byddai’r rhan yna o adeiladu’r lagŵn yn cynnwys 500 o weithwyr ar ei anterth. Yn ôl Cwmni Tidal Lagoon Power sydd tu ôl i brosiect Lagŵn Llanw Bae Abertawe, byddai nifer fawr o’r gweithwyr yn dod o dde Cymru.

Ychwanegodd y cwmni y byddai tendrau eraill yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni gan gynnwys un i adeiladu’r tyrbin yng Nghymru gan y bydd y tyrbin yn cyrraedd mewn gwahanol rannau.

Bwriad Tidal Lagoon Power bwriad yw cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 120,000 o gartrefi am gyfnod o 120 mlynedd, gan drawsnewid economi ardal Abertawe.

Mae disgwyl i’r cynllun gael y golau gwyrdd terfynol yn yr haf, gyda’r gwaith adeiladu i ddechrau yn syth wedi hynny – gan greu bron i 2,000 o swyddi i gyd.

Dywedodd Andrew McNaughton, cyfarwyddwr peirianneg ac adeiladu Tidal Lagoon Power:  “Mae cyhoeddi bod Laing O’Rourke yn ymuno â’r tîm yn gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect.

“Fel y dewis ffafriedig, bydd eu cyfraniad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ochr yn ochr â General Electric a Andritz Hydro, yn amhrisiadwy wrth baratoi ar gyfer cyflwyno ar y safle yn 2016.”