Y myfyrwyr yn protestio dydd Gwener
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi dweud y bydd yr “ymgyrch yn dwysau” i achub Pantycelyn yn dilyn argymhelliad ddoe i gau’r neuadd breswyl.

Dydd Gwener fe benderfynodd Pwyllgor Cyllid a Strategaeth Prifysgol Aberystwyth bod angen cau’r adeilad fel llety i breswylwyr ym Medi 2015, gan ddweud fodd bynnag y gallai’r lle agor fel swyddfeydd.

Ond mae’r myfyrwyr, a fu’n protestio y tu allan i’r cyfarfod hwnnw ddoe, yn anhapus nad oes addewidion wedi cael eu gwneud ynglŷn â phryd y gallai’r neuadd ailagor.

Mae un o gyn-wardeiniaid y neuadd breswyl hefyd wedi dweud y byddai’n fodlon ymprydio gydag ymgyrchwyr eraill os yw pob ymdrech arall i ddatrys y sefyllfa gyda’r brifysgol yn methu.

Llywydd UMCA Miriam Williams yn rhoi ei hymateb hi heddiw i benderfyniad pwyllgor y brifysgol:

Penderfyniad y Cyngor

Bydd argymhelliad pwyllgor y brifysgol nawr yn cael ei roi gerbron Cyngor y Brifysgol ar 22 Mehefin, a nhw fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol dros gymeradwyo’r cynlluniau i gau’r neuadd ai peidio.

Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi addo y byddan nhw’n canfod “llety addas” i unrhyw fyfyrwyr a fyddai’n cael eu heffeithio petai’r neuadd yn cau.

Ond mewn datganiad heddiw mynnodd UMCA na ddylai Pantycelyn gael ei chau “sicrwydd ariannol ac ymrwymiad o bryd y disgwylir i’r neuadd ail agor – a hynny fel neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol”.

Mae’r datblygiadau hefyd wedi achosi cryn bryder i lawer o fyfyrwyr y neuadd breswyl, sydd ar ganol cyfnod arholiadau ar hyn o bryd.

“Dim mwy, dim llai”

Heddiw fe awgrymodd Llywydd UMCA bod Prifysgol Aberystwyth yn ceisio defnyddio cyflwr yr adeilad presennol fel esgus i symud y myfyrwyr allan o’r neuadd a’i throi mewn i swyddfeydd.

“Mae’r sefyllfa yma yn union fel un 2005, gyda chynlluniau i symud swyddfeydd i’r Neuadd. Amlinellir hyn yn natganiad y Brifysgol,” meddai Miriam Williams.

“Dydi hyn ddim yn ddigon da. Llety myfyrwyr y dylai’r adeilad fod, dim mwy, dim llai. Mi ddylai Pantycelyn fod yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg hyd nes bod y gwaith o adnewyddu ac adeiladu yn cychwyn.”

Ychwanegodd Hanna Merrigan, darpar-lywydd UMCA, ei bod hi’n hyderus y bydd eu hymgyrch yn denu cefnogaeth ehangach.

“Dyma dro pedol ar dro pedol gan y Brifysgol, ac mae’n gwbl warthus,” meddai Hanna Merrigan.

“Mae’r holl gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn hyd yma yn galonogol tu hwnt. Mae ymdriniaeth y Brifysgol o’r gymuned unigryw hon yn amlwg wedi cythruddo nifer o bobl, nid yn unig y myfyrwyr presennol.”

“Bradychu’r myfyrwyr”

Mae’r newyddion wedi arwain at dipyn o drafod ar wefannau cymdeithasol, gyda nifer gan gynnwys cymdeithas fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch ond eraill yn cwestiynu’r angen am neuadd breswyl benodol i siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn pryderu am ddyfodol y gymuned Gymraeg yn y brifysgol petai’r neuadd yn cau, ac mae’r Aelod Cynulliad Elin Jones wedi dweud bod y penderfyniad wedi ei “synnu a’m siomi”.

“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bradychu’r Gymraeg a’i myfyrwyr,” meddai swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams.

“Faint o werth mae’r Brifysgol yn ei roi i’r Gymraeg? Mae’r neuadd yn un o’r ychydig gymunedau Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru – bydd cymuned Gymraeg naturiol yn cael ei chwalu oherwydd y Brifysgol.

“Mae uwch swyddogion y Brifysgol wedi ceisio twyllo myfyrwyr – dy’n nhw ddim yn addas i ddal swyddi cyhoeddus o’r fath. Bydd cell Pantycelyn yn trafod beth fydd ein haelodau yn ei wneud i gefnogi’r ymgyrch er mwyn sicrhau bod y neuadd yn aros ar agor fel llety myfyrwyr y tymor nesaf.”