Kingsway, Abertawe
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn ystyried creu parth busnes yng nghanol y ddinas ar ôl iddyn nhw gytuno i brynu’r adeilad fu’n gartref i glwb nos Oceana.

Bwriad y Cyngor, yn ddibynnol ar nawdd, yw dymchwel yr adeilad er mwyn gwneud lle i swyddfeydd.

Cafodd yr adeilad ei godi yn 1967 fel sinema Rank ac ers hynny, fe fu’n gartref i nifer o glybiau nos a bariau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Ritzy and Icon a Time and Envy.

Cafodd clwb nos Oceana ei gau fis Mai’r llynedd yn dilyn trafferthion wrth geisio denu cwsmeriaid i ganol y ddinas i ffwrdd o Wind Street.

Y clwb yn Abertawe oedd clwb mwya’r cwmni yng Nghymru ar ôl cael ei ail-agor yn 2008 yn dilyn gwaith i’w ymestyn.

Ond roedd nifer o flynyddoedd o ansefydlogrwydd o flaen cwmni Luminar oedd yn berchen ar y clwb.

Cafodd y clwb ei achub yn wreiddiol yn 2011 gan fuddsoddwyr pan aeth Luminar i ddwylo’r gweinyddwyr.

‘Lleoliad perffaith’

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Fe wyddom fod rhaid i lawer iawn mwy o bobol fod yn byw a gweithio yng nghanol y ddinas er mwyn creu mwy o fywiogrwydd, denu mwy o fuddsoddiad o du’r sector preifat a denu’r niferoedd o ymwelwyr sy’n hanfodol ar gyfer cryfhau ei lle fel prif yrrwr economi Rhanbarth Ddinas Bae Abertawe ar y cyfan.

“Mae tranc y Kingsway fel lleoliad ar gyfer bywyd nos a manwerthu yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer parth busnes a fyddai’n cyfuno datblygiadau swyddfeydd a llety i helpu i greu’r lefelau sŵn traed fyddai eu hangen er mwyn cefnogi ein gwerthwyr presennol ac annog mwy o siopau, bwytai a busnesau eraill o safon i fuddsoddi yn Abertawe.”

Ychwanegodd fod prynu’r safle’n “arwydd o fwriad” y Cyngor i ddatblygu canol y ddinas.