Mae Indonesia a Malaysia wedi cytuno i gynnig lloches dros dro i ffoaduriaid sydd wedi cael eu hachub o’r môr.
Dyma’r ateb dyngarol cyntaf o bwys mawr ers i’r argyfwng ddechrau.
Daeth cadarnhad o ymrwymiad y ddwy wlad i gynnig cymorth i 7,000 o ffoaduriaid yn dilyn cyfarfod rhwng gweinidogion tramor Malaysia, Indonesia a Gwlad Thai.
Mae’r rhan fwyaf o’r ffoaduriaid a gafodd eu hachub yn rhan o leiafrif Islamaidd y Rohingya o Burma, a’r gweddill yn dod o Fangladesh.
Mae 430 o ffoaduriaid wedi cael eu cludo i Indonesia ers cael eu hachub gan bysgotwyr, ond mae’r nifer sydd wedi cael eu hachub ar y cyfan yn 7,000 erbyn hyn.
Mae’r ddwy wlad wedi cytuno i roi lloches i’r ffoaduriaid ar yr amod eu bod nhw’n dychwelyd i’w mamwlad ymhen blwyddyn.
Mae lle i gredu bod y rhan fwyaf o’r ffoaduriaid wedi cael eu symud yn anghyfreithlon ac wedi cael addewid y byddai swyddi iddyn nhw ym Malaysia a Bangladesh.
Mewn gwirionedd, maen nhw’n cael eu cadw’n wystlon ar gychod pysgota neu mewn gwersylloedd yng Ngwlad Thai cyn cael eu cludo i Falaysia.
Mae llywodraethau Malaysia, Indonesia a Gwlad Thai wedi addo cymryd camau yn erbyn unigolion sy’n cael eu darganfod yn symud ffoaduriaid yn anghyfreithlon.
Mae nifer o swyddogion yr heddlu a swyddogion lleol wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai ar amheuaeth o gynorthwyo’r broses.