Bydd mwy o ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r iaith Gymraeg o hyn ymlaen wedi i’r Cynulliad basio’r Bil Cynllunio yn y Senedd neithiwr.

Mae’r bil yn gorfodi cynghorau i ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn ystod y broses o farnu ar geisiadau cynllunio.

Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn galluogi gweinidogion Llywodraeth Cymru i ffurfio cynllun datblygu cenedlaethol.

Cafodd y Bil ei dderbyn gan 39 o Aelodau’r Cynulliad, tra bod 10 yn ei wrthwynebu.

Roedd pryderon gan rai y byddai’r Bil yn arwain at roi mwy o rym i swyddogion heb eu hethol yn ystod y broses o ystyried ceisiadau.

Ymateb

Wedi i’r Bil gael ei basio, dywedodd Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw’n dechrau ymgyrchu dros Fil Eiddo er mwyn ymdrin â’r ffordd mae’r stoc tai presennol yn effeithio ar y Gymraeg.

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy’r Gymdeithas, Tamsin Davies: “Rydyn ni’n falch iawn bod y Gymraeg bellach yn ystyriaeth berthnasol yn y gyfundrefn gynllunio, ond mae’n peri siom nad yw’r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion trawsbleidiol.

Wrth edrych ymlaen, os yw’r Gymraeg yn mynd i ffynnu mae angen ymwneud â defnydd o’r stoc tai presennol yn ogystal. Mae angen sefydlu cyfundrefn sy’n rhoi anghenion lleol yn gyntaf, yn hytrach nag elw.

“Mae gwir angen sefydlu’r hawl i rentu a mesurau i roi’r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai.

“Mae costau tai a rhentu yn rhai o’r ffactorau sy’n gyrru allfudo, sy’n mor niweidiol i’r Gymraeg. Dyna pam byddwn ni’n rhedeg ymgyrch dros Fil Eiddo dros y misoedd nesaf.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd modd i holl bleidiau’r Cynulliad weithredu ar ein galwadau am ddeddfwriaeth a rheoliadau pellach yn y misoedd a blynyddoedd nesaf.”

‘Tasg ar ei hanner’

Yn dilyn pasio’r Bil, dywedodd llefarydd cymunedau cynaliadwy Plaid Cymru, Llyr Gruffydd mai “tasg ar ei hanner” yw’r Bil Cynllunio.

“Pan roddwyd y Bil gerbron nid oedd ynddo unrhyw bwrpas statudol ar gyfer cynllunio, dim darpariaeth ar gyfer cryfhau’r Gymraeg o fewn y system gynllunio; yr oedd yn rhoi i bobl wedi eu henwebu a heb eu hethol bleidleisiau ar gynlluniau datblygu rhanbarthol newydd, ac yr oedd yn rhoi pwerau nas gwelwyd erioed o’r blaen i weinidogion Llywodraeth Cymru.

“Llwyddodd Plaid Cymru i wella’r Bil yn sylweddol.

“Mae newidiadau eraill wedi gwneud yn siŵr fod Datganiadau Dylunio a Mynediad yn cael eu cadw, ynghyd â chadw gwarchodaeth i leiniau gwyrdd mewn trefi a phentrefi yng Nghymru.”

‘Gormod o rym’

Dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Russell George fod y Bil wedi methu â sicrhau bod y broses gynllunio’n dod yn fwy democrataidd.

“Er mwyn llwyddo, roedd rhaid cwtogi a symleiddio’r broses gynllunio fel rhan o’r Bil hwn, a sicrhau y byddai’r system gynllunio’n dod yn fwy democrataidd.

“Yn anffodus i bobol Cymru, mae’r hyn sydd gyda ni o’n blaenau i’r gwrthwyneb yn llwyr.”

Ychwanegodd nad yw’r Bil wedi datganoli’r grym i gymunedau Cymru, a bod “gormod o rym” gan weinidogion Llywodraeth Cymru.