Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn awyddus i ganfod barn y cyhoedd ynghylch llu o bwerau newydd i reoli adnoddau naturiol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r mesur, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf yn ceisio deddfu ar amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd mewn perthynas ag adfer natur a defnyddio’r adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy.

Ymhlith y pwerau fydd gan y ddeddf arfaethedig yw mewn maes cynllunio a rheoli cyfoeth naturiol Cymru ar lefel genedlaethol a lleol.

Bydd y ddeddf, os yw’n mynd ar y llyfr statudol, yn  gwella’r pwerau sydd ar gael i Gyfoeth Naturiol Cymru wrth ymgymryd â chytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol ac wrth ddarparu gofyniad i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth.

‘Newid hinsawdd’

Mae’r mesur yn cynnwys cynigion i greu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu o ran newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Maent yn awyddus i ddiwygio’r gyfraith ar godi tâl am fagiau plastig. Bydd y cynigion hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff  gan gynnwys casglu gwastraff ar wahân a thrin gwastraff bwyd ac adfer ynni mewn busnes.

Bydd hefyd yn cynnwys  cynlluniau i sefydlu ffioedd am drwyddedau morol. Un o’r prif gynigion yw sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol gan gefnogi’r newidiadau i’r gyfraith ar ddraenio tir ac is-ddeddfau a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

‘Effeithio ar bob agwedd o fywyd’

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Bydd y cynigion hyn, os cânt eu gwneud yn gyfraith, yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau; o faterion mawr fel gosod ein huchelgeisiau ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sut mae’r tir o’n cwmpas yn cael ei reoli i fanylion fel faint yr ydym yn ei dalu am fag siopa a sut y byddwn yn didoli ein gwastraff ailgylchu.

“Mae’n bwysig bod y mesur hwn yn gywir, gan y bydd yn cael effaith sylfaenol ar sut rydym yn cadw cydbwysedd rhwng cadwraeth ac adfer natur wrth ddefnyddio ein cyfoeth naturiol mewn modd cynaliadwy.”

Ychwanegodd: “Fel Pwyllgor, byddwn yn edrych ar y mesur hwn yn fanwl i weld a ddylai ddod yn gyfraith, ac i sicrhau, os bydd hynny’n digwydd, bod y mesur yn cyrraedd y safonau uchaf posibl.”