Carwyn Jones eisiau atal Cameron (llun llyfrgell Rhif 10 Downing Street)
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud apêl munud ola’ at gefnogwyr y gwrthbleidiau eraill i gefnogi Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol.

Wrth siarad heddiw gydag arweinydd Prydeinig ei blaid, fe fydd Carwyn Jones yn gofyn i gefnogwyr Plaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol eu cefnogi nhw.

Dyna’r unig ffordd, meddai, o sicrhau lle gwledydd Prydain yn Ewrop, o ddiogelu’r economi ac o ennill “arian teg” i Gymru.

‘Llafur – y tro yma’

Fe fydd Carwyn Jones yn ymuno â’r arweinydd Llafur, Ed Miliband, yng Nghaerdydd heddiw ac yn apelio’n gwbl agored am gefnogaeth y pleidiau eraill yn erbyn y Ceidwadwyr.

“Yn  ychydig ddyddiau ola’r ymgyrch, r’yn ni wir eisiau i’r mwyafrif mawr gwrth-Dorïaidd yng Nghymru ddod y tu cefn i Lafur i wneud yn siŵr na fydd Cameron ac UKIP yn sleifio i mewn trwy’r drws cefn,” meddai Carwyn Jones.

“Ar y pynciau mawr – fel yr economi, lles, y Gwasanaeth Iechyd ac Ewrop – fe fydd pobol sydd wedi cefnogi Plaid, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion yn y gorffennol i gyd yn ffafrio Llywodraeth Lafur yn hytrach na Llywodraeth Dorïaidd.

“Ond fe fydd yr etholiad mor glos fel mai’r unig ffordd o sicrhau nad yw’r Ceidwadwyr yn sleifio i mewn, a’r ffordd honno yw cefnogi Llafur y tro yma.”