Mae 95% o bobol mewn perthynas yn gwrthod dweud pan maen nhw’n derbyn anrheg nad ydyn nhw’n hoffi.

Dyna mae gwaith ymchwil Oxfam yn ddangos – mae’r elusen yn annog pobol i roi anrhegion nad ydyn nhw’n hoffi yn rhodd iddyn nhw.

Fe holodd Oxfam 2,000 o bobol ac yn ôl yr atebion mae 69% wedi cadw anrhegion nad ydyn nhw’n ddymuno eu defnyddio mewn cypyrddau.

Mae Oxfam am i’r bobol hyn roi eu anrhegion i’r elusen a chodi “hyd at filiwn o bunnoedd” rhwng heddiw ac Ebrill 19.

Adeiladu toilet mewn argyfwng

“Petai bob person yn rhoi un eitem mi allai godi miloedd o bunnoedd ar gyfer gwaith hanfodol Oxfam. Gallai miliwn o bunnoedd dalu am nwyddau ysgol ar gyfer 125,000 o blant yn Niger,” meddai Kirsty Davies, Pennaeth Oxfam Cymru. “Gallai adeiladu 20,000 o dai bach mewn argyfwng, neu ddarparu 140,000 o rwydau mosgito i warchod pobl tra’u bod nhw’n cysgu. Dyna pam ei fod yn hanfodol i bobl roi’r eitemau hyn nad ydyn nhw eu heisiau i Oxfam.”

Mae’r Ffair Fawr Rhoi a Phrynu yn cychwyn gyda Phenwythnos Eitemau Ffasiwn rhwng 20 a 22 Mawrth, pan fydd dros 1,000 o eitemau gan gynllunwyr megis esgidiau Louboutin a sgarffiau Dior ar gael ar wefan Oxfam www.oxfam.org.uk/shop <http://www.oxfam.org.uk/shop>.

Mae’r Ffair Fawr Rhoi a Phrynu wedi denu cefnogaeth gan enwogion, gan gynnwys Laurence Fox, Hilary Alexander, Nina Wadia a George Lamb, sydd oll wedi modelu eitemau ar gyfer yr ymgyrch.
“Mae rhai o fy hoff bethau i wedi dod o Oxfam. Mae modd prynu pethau tlws iawn yno,” meddai Laurence Fox. “Rydw i’n casáu gwastraff a does wir ddim rhaid prynu pethau newydd sbon. Mae nifer o bethau yn gwella gydag amser, yn enwedig bagiau. Wrth i chi roi a phrynu gan Oxfam, rydych chi’n newid bywydau pobl er well. Mae pawb yn ennill.”