Mae dyn 76 o Wrecsam a gafwyd yn euog o ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen yn wynebu rhagor o gyhuddiadau.

Mae Roger Owen Griffiths bellach wedi’i gyhuddo o 11 o droseddau o greu delweddau anweddus o blant ac mae’n wynebu tri chyhuddiad o fod â delweddau pornograffig eithafol yn ei feddiant.

Honnir i’r troseddau gael eu cyflawni rhwng 2010 a 2014.

Bydd Griffiths yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam ar Ionawr 2.

Eisoes, cafwyd Griffiths yn euog o ddau ymosodiad anweddus ar fachgen rhwng 1982 a 1984, pan oedd y bachgen rhwng 12 a 14 oed.

Daw’r cyhuddiadau fel rhan o ymchwiliad Pallial, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant mewn gofal yng ngogledd Cymru.

Mae 35 o bobol wedi cael eu harestio neu eu holi fel rhan o’r ymchwiliad, ac mae 13 wedi cael eu cyhuddo’n ffurfiol o droseddau.