Nigel Farage
Mae David Cameron wedi codi cwestiynau ynglŷn â chynlluniau ar gyfer tair dadl deledu rhwng arweinwyr y prif bleidiau a fydd yn cael eu darlledu cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai 2015.

O dan y cynlluniau sydd wedi cael eu cyhoeddi mewn datganiad ar y cyd rhwng BBC, ITV, Sky News a Channel 4, fe fyddai’r Prif Weinidog nid yn unig yn mynd ben ben a’r arweinydd Llafur Ed Miliband, Nick Clegg o’r Democratiaid Rhyddfrydol ond hefyd arweinydd Ukip Nigel Farage.

Dywedodd David Cameron ei fod o blaid cynnal dadleuon “mewn egwyddor” ond bod cwestiynau ynglŷn â chynnwys Ukip, a enillodd ei sedd gyntaf yn San Steffan wythnos ddiwethaf, os nad oedd y Blaid Werdd yn cael cymryd rhan, gan fod ganddyn nhw AS ers 2010.

Fe awgrymodd y Prif Weinidog bod angen cynnal trafodaethau er mwyn dod i gytundeb y byddai pawb yn fodlon ei dderbyn.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran BBC Cymru y bydd UKIP yn cael gwahoddiad i’r ddadl ochr yn ochr â’r Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y BBC mae ymestyn y gwahoddiad i Ukip “o ganlyniad i’r cynnydd cyffredinol ym mhleidlais UKIP yn etholiad Ewrop ac mewn polau piniwn diweddar.”

‘Colli cysylltiad’

Ond mynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, nad oedd y dadleuon teledu hyn yn adlewyrchu realiti.

“Mae’r oes o wleidyddiaeth ddwy blaid drosodd a dylai’r dadleuon hyn fod yn wir adlewyrchiad o’r dewis sy’n wynebu pobl o bob cornel o Brydain yn yr etholiad cyffredinol.

“Mae’r darlledwyr hyn yn dangos eu bod wedi colli cysylltiad gyda barn pobl ar lawr gwlad ac wedi glynu at elit San Steffan.”

Ar gyfrif Twitter Leanne Wood, mae hi’n galw am gefnogaeth i sicrhau fod llais y pleidiau i gyd, fel y Blaid Werdd, yn cael eu cynnwys yn y dadleuon hyn.

“Mae pobl Cymru yn haeddu dim byd llai na chlywed beth sydd gan y pleidiau i gyd i ddweud a byddwn yn cymryd camau pendant i sicrhau fod hyn yn digwydd.”

‘Rhan o’r broses wleidyddol’

Dywedodd y BBC fod y dadleuon hyn yn “fodd o annog pleidleiswyr i fod yn rhan o’r broses wleidyddol.”

Cafwyd dadl deledu a ddenodd dros 22 miliwn o wylwyr yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf gydag arweinwyr y Blaid Geidwadol, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd rhan.

Bydd hyn yn rhan o gynlluniau ehangach i ddarlledu cyfres o ddadleuon gan y prif ddarlledwyr ym Mhrydain yn ystod yr etholiad cyffredinol yn 2015.